Ymateb Urdd Gobaith Cymru ar yr Ardoll Brentisiaethau

Paratowyd gan:  Catrin James, Swyddog Cenedlaethol Polisi a Phrosiectau

Dyddiad:- 20/3/18

1.    Cefndir yr Urdd

1.1. Mae Urdd Gobaith Cymru yn gwmni cyfyngedig drwy warant (rhif 263310) ac yn elusen gofrestredig (rhif 524481).  Cafodd ei sefydlu yn 1922, ac mae wedi datblygu yn barhaus ers hynny.

1.2. Nod Urdd Gobaith Cymru yw:- i ‘sicrhau cyfle, trwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg i holl ieuenctid Cymru (rhwng 8 a 25 oed) i ddatblygu’n unigolion cyflawn; a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas rhan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol’. 

1.3.Dros 95 mlynedd yn ddiweddarach, mae gan Urdd Gobaith Cymru, sef prif fudiad ieuenctid Cymru, dros 54,000 o aelodau sy’n perthyn i dros 900 o ganghennau sy’n cymryd rhan mewn pob math o weithgareddau. Cyflawnir y gwaith gyda chymorth 283 o aelodau o staff a 10,000 o wirfoddolwyr.

1.4.Blaenoriaethau Urdd Gobaith Cymru ar gyfer y cyfnod 2016 i 2019

·         Trefnu gweithgareddau a datblygu prosiectau sy’n cynyddu defnydd plant a phobl ifanc  o’r Gymraeg.

·         Cynyddu gweithgaredd chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg.

·         Parhau i ddatblygu Gwersylloedd yr Urdd fel canolfannau o’r safon uchaf, a buddsoddi yn yr adnoddau.

·         Sicrhau bod mwy o gyfle i blant a  phobl ifanc gymryd rhan yn yr Eisteddfod ac yn y celfyddydau.  

·         Gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod y gwaith yn cyfrannu i strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

·         Parhau i ddatblygu cynnig Gwaith Ieuenctid Cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru.

 

2.    Urdd Gobaith Cymru a Phrentisiaethau

2.1. Mae Urdd Gobaith Cymru yn darparu cyfleoedd Prentisiaethau ar draws Cymru. Ers y cychwyn, mae 59 o Brentisiaid wedi cwblhau neu wrthi’n cwblhau  prentisiaeth fel rhan o Gynllun Prentisiaeth yr Urdd..

·         34 prentis yn rhan o’r Cynllun Prentisiaeth a’r Darpariaeth Prentisiaethau  yn ystod 2017-2018

·         1 Prentis erbyn nawr yn Swyddog Datblygu o fewn yr Adran Chwaraeon.

·         2 yn gweithio fel Swyddogion Prosiect ac yn dilyn cwrs rhan-amser o fewn Prifysgol.

·         2 Prentis wedi symud ymlaen i fod yn Swyddogion Gweithgareddau yn yr Adran Chwaraeon

·         8 yn gweithio o fewn Gwersylloedd yr Urdd.

·         7 yn y Brifysgol yn dilyn cyrsiau Chwaraeon neu weithio gyda phlant.

·         14 yn gweithio llawn-amser. Nifer ohonynt yn Athrawon Cynorthwyol

 

3.    Effaith yr Ardoll ar yr Urdd

3.1. Mae trosiant yr Urdd yn agos at £10miliwn.  O ganlyniad i gyfanswm ein cyflogres mae yn ofynnol ar yr Urdd i dalu'r Ardoll Prentisiaethau, sydd oddeutu £10k yn flynyddol.

3.2. Fel mudiad sydd yn darparu a hyrwyddo cyfleoedd prentisiaeth. Rydym yn argyhoeddedig o werth ac effaith y cynllun prentisiaeth ar unigolion, busnesau a datblygiad sgiliau ac economi Cymru.

3.3. Gan ei fod yr Ardoll yn daladwy i Gyllid a Thollau EM, teimlwn fod yr Ardoll yn gweithredu fel “treth” ychwanegol arnom ni fel cyflogwr sy’n gweithredu yn llwyr oddi fewn i Gymru - treth sydd yn daladwy petawn ni’n gyflogwr gyda chynllun prentisiaeth ai peidio. Gan fod trefniadau prentisiaethau wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, nid oes mantais uniongyrchol yn dod i’r Urdd felly o orfod talu’r Ardoll.  

3.4. Nid ydym yn medru gosod y costau yma yn erbyn treth gan nad yw’r Urdd yn gymwys i dalu Treth Gorfforaethol.

3.5. Rydym yn cael yr argraff bod yr Ardoll Prentisiaeth sydd yn ddaliadwy gan gyrff yng Nghymru yn cael ei golli yng nghoffrau'r Deyrnas Unedig.  Felly rydym yn teimlo nad oes adenillon uniongyrchol yn deillio o’r drefn bresennol.

 

4.    Unrhyw bryderon hyd yn hyn o ran effaith yr ardoll a’r broses ar gyfer ei gyflwyno

4.1. Mae’r Ardoll yn lleihau’r arian sydd gan fudiad ieuenctid fel yr Urdd i’w gyfeirio at ddarpariaeth er budd pobl ifanc yng Nghymru. 

4.2. Yr effaith uniongyrchol i’r Urdd yw’r angen i wneud penderfyniadau yn sgil colli £10,000 tuag at ddarpariaeth uniongyrchol i blant a phobl ifanc a chyflogau ein staff o fewn rhai o ardaloedd mway’ difreintiedig Cymru

4.3. Deallwn fod modelau ar ddefnydd o’r Ardoll yn amrywio ar draws y gwledydd datganoledig a Lloegr.  Nid ydym yn glir os ydy neu sut mae’r Ardoll Prentisiaethau yn cael eu defnyddio yng Nghymru, y canran / gwerth sydd ar gael i gynlluniau Prentisiaethau yng Nghymru.

 

5.    Argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru  neu sefydliadau eraill

5.1. Rydym yn cydnabod buddsoddiad Llywodraeth Cymru i Brentisiaethau yng Nghymru. Er hyn mae angen diogelu bod y gyfran haeddiannol o’r Ardoll ar gael i Gymru ac i gyrff sydd ond yn weithredol o fewn Cymru.

5.2. Rydym am i Lywodraeth Cymru diogelu ei phwerau datganoledig i sicrhau nad oes Ardollau eraill yn cael eu gorfodi ar Gymru.

5.3. Mae angen sicrhau presenoldeb Llywodraeth Cymru ar ran cyflogwyr yng Nghymru ar unrhyw fforymau trafod NOS gan ddiogelu eu bod  ar gael yn y Gymraeg.